Polisi Preifatrwydd
Cartref > Polisi Preifatrwydd
Ein manylion cyswllt:
Enw: Llinos Murtha
Cyfeiriad: Fferm Bryn Seiri, Ffordd Bryn Seiri, Gyffin, Conwy. LL32 8UD
Rhif ffon: 07921032853
E-bost: post@cwtygwenyn.cymru
Cwblhawyd: Tachwedd 2023
Y math o wybodaeth personol a gasglwn.
Rydym ar hyn o bryd yn casglu a phrosesu`r wybodaeth ganlynol:
• Dynodwyr personol, cyswllt a nodweddion e.e. enw, cyfeiriad, a manylion cyswllt ebyst a ffôn
Sut y cawn yr wybodaeth bersonol a pham.
Mae`r rhan fwyaf o`r wybodaeth bersonol a broseswn wedi`i gyflwyno ganddoch chwi er mwyn un o`r rhesymau yma:
• Rhaid i ni gadw cofrestr o`r holl ymwelwyr sy`n ymweld â Cwt y Gwenyn.
Rydym hefyd yn defnyddio`r wybodaeth er mwyn cysylltu â chwi cyn eich arhosiad.
Yn unol â Rheolau Amddiffyn Data Cyffredinol (GDPR) y Sylfaen gyfreithiol a ddibynwn arno i brosesu`r wybodaeth yw:
1. Eich cydsyniad. Gellwch rwystro`ch cydsyniad ar unrhyw adeg, trwy gysylltu ag Llinos Murtha.
2. Mae ganddom ymrwymiad cyfreithiol.
Sut yr ydym yn storio`r wybodaeth bersonol.
Mae eich gwybodaeth yn cael ei storio`n ddiogel yn Fferm Bryn Seiri.Byddwn yn cadw enwau, cyfeiriadau a rhifau cyswllt am 3 blynedd. Yna, byddwn yn cael gwared â`r papurau perthnasol trwy eu llosgi.
Eich hawliau amddiffyn data.
Yn unol â`r gyfraith parthed data mae eich hawliau`n cynnwys:
- Eich hawl i fynediad. Mae ganddoch yr hawl i ofyn am eich manylion personol.
- Eich hawl i gywiro. Mae ganddoch yr hawl i ofyn am gywiro`r wybodaeth bersonol os y credwch ei fod yn anghywir. Mae ganddoch yr hawl, yn ogystal, i ofyn am gwblhau gwybodaeth, sydd yn eich barn chwi, yn anorffenedig.
- Eich hawl i gael gwared. Mae ganddoch yr hawl i gael gwared o`ch manylion personol o dan rhai amgylchiadau.
- Eich hawl i gyfyngu`r prosesu. Mae ganddoch yr hawl i gyfyngu ar brosesu`ch manylion personol mewn rhai amgylchiadau.
- Eich hawl i wrthwynebu`r prosesu. Mae ganddoch yr hawl i wrthwynebu prosesu`ch gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
- Eich hawl i drosglwyddo data. Mae ganddoch yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo`r wybodaeth bersonol, a roesoch i ni, i sefydliad arall neu i chwi, mewn rhai sefyllfaoedd.
- Nid oes angen i chwi dalu unrhyw gostau i weithredu`ch hawliau. Petasech yn cyflwyno cais mae gennym fis i ymateb i chwi.
Cysylltwch â ni trwy – post@cwtygwenyn.cymru neu 07921032853 petasech yn dymuno gwneud cais.
Sut i gwyno?
Os oes gennych unrhyw gonsyrn ynglŷn â`n defnydd o`ch gwybodaeth bersonol, gellir cyflwyno cŵyn i ni – post@cwtygwenyn.cymru
Gellwch hefyd gwyno i`r ICO petasech yn anhapus yn y modd y defnyddiwn eich data.
Cyfeiriad yr ICO:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Llinell gymorth: 0303 123 1113
Gwefan ICO website: https://www.ico.org.uk