Amdanom
Cartref > Amdanom
Lleoli’r Cwt Y Gwenyn yn yr hen berllan ar Fferm Bryn Seiri, fferm deuluol fechan 60 erw sydd wedi’i lleoli ar gyrion tref Conwy, safle treftadaeth y byd. Credir bod yr enw Bryn Seiri wedi deillio o pan gafodd y tir ei feddiannu gan rai o’r seiri niferus yr oedd eu hangen i adeiladu Castell Conwy.
Mae’r fferm wedi bod yn ein teulu ni ers 1922, ac yn 2021, fe benderfynon ni osod pod gwyliau newydd yn lle’r garafán sefydlog a oedd yn cael ei defnyddio fel llety gwyliau o’r 1970au i’r 2000au cynnar. Mae’r pod wedi ei leoli yn yr hen berllan, lle buom yn lletya 30 o gychod gwenyn, a dyna pam yr enw, Cwt Y Gwenyn.
Yn y 70’au, croesawodd fy nhaid a nain Alun a Bessie Davies lawer o westeion o bob rhan o Brydain i’r garafán yma yn Bryn Seiri. Bryd hynny, fel gwestai, gallwch gael eich gofyn i helpu ar y fferm, o hel y gwartheg, trwsio ffens, cario gwair ac unwaith, tynnu tractor Alun allan o’r gors, ar ôl iddo suddo i’w echel yn y mwd!
Heddiw, yr oll sydd angen i’r gwesteion wneud i’w mwynhau eu hunain. Gyda lleoliad heddychlon a phreifat, mae gan Cwt y Gwenyn lawer mwy na lle i aros i’w gynnig. Ymlaciwch yn twb twym Rotaspa sydd yn eistedd 5, coginio a mwynhau gwres tân y Kadai, archwilio y nifer o lwybrau cerdded sydd ar stepen y drws a mwynhau’r golygfeydd godidog. Rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau eich amser yma yn Cwt y Gwenyn.
Milltir o dref gaerog Conwy, rydym wedi ein lleoli mewn llecyn delfrydol i chi fwynhau y gorau sydd gan Gogledd Cymru i’w gynnig, o giniawa braf, i fwynhau’r golygfeydd a’r diwylliant, mae rhywbeth at ddant pawb.
A pheidiwch a phoeni, mae’r gwenyn dal yma, wedi eu symud i ran arall o’r ffarm, mor hapus a bodlon ag yr oeddynt yn y berllan.
Rydym yn edrych ymlaen i’ch croesawu’n fuan.
Hwyl am y tro, Sion a Llinos Murtha